Mae’r Cyfnod Clo oherwydd y feirws Covid-19 wedi ein gorfodi i ohurio cyhoeddi copïau caled o Llais Ogwan am y tro. Fodd bynnag, ‘rydym wedi penderfynu parhau i gyhoeddi rhifynnau digidol o’r papur am ddim ar wefannau Llais Ogwan a Bro360. Ond, golyga hyn nad ydym yn derbyn arian o werthiant y papur a bydd hyn yn lleihau’r incwm sydd ar gael i gynnal ein papur bro sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ddi-dor ers y cychwyn ym mis Hydref 1974.
Gobeithiwn bod pawb yn mwynhau derbyn rhifynnau digidol o’r papur i’w darllen pob mis. Byddem yn ddiolchgar iawn o dderbyn unrhyw roddion gan ein darllenwyr i’n cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal y papur. Gallwch ddanfon eich rhoddion at -
Mr Neville Hughes
Trefnydd Hysbysebion
14 Ffordd Pant
Bethesda
Gwynedd LL57 3PA
neu trwy drosglwyddiad banc i’r manylion a ganlyn -
Enw’r Cyfrif: Llais Ogwan
Banc: HSBC
RHIF DIDOLI: 40-09-03
RHIF Y CYFRIF: 61252771
Os byddwch yn gwneud cyfraniad trwy drosglwyddiad banc, a fyddech mor garedig hefyd â danfon neges i hysbysu’r Ysgrifennydd ar garethllwyd197@btinternet.com os gwelwch yn dda?
Diolchwn i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth i Llais Ogwan.