Wyddoch chi y gallwch chi bellach ddarllen papur bro Llais Ogwan ar-lein?
Am y tro cyntaf, mae Llais Ogwan ar gael i’w ddarllen ar-lein yr un pryd â’r copi papur, gan roi cyfle i bobl o Ddyffryn Ogwen a thu hwnt gadw mewn cysylltiad â newyddion yr ardal lle bynnag maen nhw yn y byd.
Am £11 y flwyddyn, gall darllenwyr danysgrifio i gael mynediad at fersiwn ddigidol o’r papur ar y we, gan ychwanegu at y trefniadau presennol, gyda’r papur yn parhau ar gael drwy ddosbarthiad lleol, mewn siopau a drwy’r post.
Mae’r cam diweddaraf yn hanes y papur bro yn siŵr o fod yn newyddion da i’r nifer fawr o bobl sydd wedi gadael y dyffryn dros y blynyddoedd ond sy’n parhau i ddilyn digwyddiadau’r ardal. Bydd hefyd yn apelio at ddarllenwyr sy’n well ganddynt ddarllen ar ffôn, llechen neu gyfrifiadur.
Mae tanysgrifio yn rhwydd drwy ddilyn y ddolen yma: https://ogwen.360.cymru/aelod/llaisogwan/